#

 

 

 

 

 


Tystion:

Rhif y ddeiseb: P-05-654

Teitl y ddeiseb: Gwrthwynebu’r cynigion presennol o ran dynodi ardaloedd cadwraeth arbennig ar gyfer Llamhidyddion

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae ffiniau presennol yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig ar gyfer Llamhidyddion yn cael eu sefydlu. Dylid cynnwys gwyddoniaeth i gefnogi ffactorau ffisegol a biolegol sy'n hanfodol i gylch bywyd y Llamhidyddion, gan gynnwys lle mae'r creaduriaid yn bwydo a lloia. Ni ddylent gael eu sefydlu'n unig gan edrych ar boblogaeth o 10%, a ganfuwyd drwy fapio, sy'n wyddoniaeth artiffisial. 

Fel y gwyddoch mae'n debyg, mae'r DU o dan fygythiad achos cyfreithiol ar hyn o bryd, oherwydd y dylai ddynodi rhagor o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn unol â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar gyfer diogelu Llamhidyddion Harbwr.

Mae'r gwrthwynebiad hwn yn deillio yn sgîl y ffaith ei bod, ar hyn o bryd, yn amhosibl mesur yr effaith y gall Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sydd newydd eu dynodi eu cael ar y diwydiant pysgota yn y dyfodol. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau ynghylch beth yw'r sail wyddonol a ddefnyddiwyd i sefydlu'r ardaloedd arfaethedig.

 

 

Cefndir

Mamal morol yw'r llamhidyddion harbwr sy'n gyffredin ar draws foroedd oer a chymedrol Ewrop, gan gynnwys dyfroedd arfordirol Cymru. Yn ôl y Cydbwyllgor ar Sgwrs Natur (JNCC), ymddengys bod y boblogaeth llamhidyddion yn cronni ym Môr y Gogledd a'r Môr Celtaidd rhwng mis Mehefin a Medi er bod cyfran o'r boblogaeth yn aros yno drwy gydol y flwyddyn.  Mae data sydd ar gael yn awgrymu bod llamhidyddion harbwr mewn “statws cadwraeth ffafriol” ar hyn o bryd o amgylch y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, maent yn agored i bwysau gan gynnwys llygredd a chael eu dal yn ddamweiniol (gweler cwestiwn 15 yn y daflen Cwestiynau Cyffredin atodedig).  Gwelir trosolwg manwl o ecoleg a chynefinoedd y llamhidyddion harbwr ym mhennod 1 o'r adolygiad conservation literature a luniwyd gan y Cydbwyllgor ar Sgwrs Natur (JNCC).

Mae'r llamhidyddion harbwr yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol yn nyfroedd y DU drwy ddeddfwriaeth genedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Mae trosolwg manwl o'r cyd-destun polisi a deddfwriaethol ar gyfer llamhidyddion harbwr i'w weld ym mhennod 2 o adroddiad y JNCC.

Yn yr UE, y brif ddeddfwriaeth yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt, sydd yn fwy adnabyddus fel y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.Mae'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau ddynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer y rhywogaethau a restrir yn atodiadau i'r Gyfarwyddeb.

 Fel sy'n wir gyda phob deddfwriaeth Ewropeaidd, gall y Comisiwn Ewropeaidd gymryd camau yn erbyn Aelod-Wladwriaeth y mae'n credu sy'n methu â gweithredu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Yr enw ar hyn yw 'achos o dorri'.

Ym mis Hydref 2012, dechreuodd y Comisiwn Ewropeaidd achos peilot ynglŷn â diffyg Ardaloedd Cadwraeth Arbennig gyfer llamhidyddion yn nyfroedd y DU. Mae achos peilot wedi'i gynllunio i ddatrys problemau cydymffurfiaeth heb orfod troi at achosion tresmasu.  Ym mis Mehefin 2013, rhoddwyd hysbysiad ffurfiol i Lywodraeth y DU yn dilyn 'barn resymegol' ym mis Hydref 2014. Barn resymegol yw'r cam swyddogol cyntaf yn yr achos o dorri. Ym mis Rhagfyr 2014, ymrwymodd Llywodraeth y DU i ganfod a dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer llamhidyddion dynodedig.

I benderfynu ar sefyllfa yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig, gweithiodd y JNCC gyda'r Cyrff Cadwraeth Natur Statudol ym mhob un o wledydd y DU er mwyn canfod y safleoedd gorau yn nyfroedd y DU.  Yng Nghymru, y corff hwn yw Cyfoeth Naturiol Cymru. Y bwriad yw bod Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ardaloedd y gellir eu nodi'n glir ac sydd wedi'u lleoli yn ôl y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.

Cafodd y data llamhidyddion harbwr a gasglwyd gan y JNCC ei lunio gan ddefnyddio'r Protocol Morfilod ar y Cyd (JCP) ac mae'n seiliedig ar ddosbarthiad llamhidyddion yn nyfroedd y DU dros gyfnod o 18 mlynedd rhwng 1994 a 2011. Cafodd ei gasglu gan ddata o arolygon a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, cyrff anllywodraethol, unigolion a diwydiant. Roedd yn cynnwys data môr a gasglwyd o arolygon ar gychod ac o'r awyr a data tir o fannau mewn lleoliadau arfordirol. Cafodd data ei ddadansoddi gan JNCC a'i gyhoeddi mewn dau adroddiad cymheiriaid, 543 a 544 y gellir eu gweld ar wefan y JNCC.

Cafodd canlyniadau'r ddau adroddiad eu dadansoddi gan y JNCC a Chyrff Cadwraeth Natur Statudol y DU. Roeddent yn nodi pum Ardal Cadwraeth Arbennig arfaethedig. Gellir gweld eu lleoliad a dogfennau atodol ar y dudalen ymgynghori ar wefan y JNCC.

Mae'r fethodoleg a ddefnyddir i nodi'r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig wedi'u hamlinellu ym mhapur y JNCC rhif 565:

§    Cafodd data ar rywogaethau eu casglu o arolygon ar gychod ac arfordirol dros gyfnod o 18 mlynedd;

§    Casglwyd data amgylcheddol, gan gynnwys gwybodaeth gyfredol ac ar wely'r môr gan fodelu hydrodynamig a gwybodaeth fel dwyseddau llongau;

§    Cyfunwyd y ddwy ffynhonnell data hyn;

§    Defnyddiwyd y data hwn i greu model dosbarthu gofodol-amserol (h.y. lle ac amser) o ddwysedd llamhidyddion a'i ansicrwydd cymharol;

§    Defnyddiwyd y data model i ragweld a mapio dwyseddau llamhidyddion, parhad a lleoliadau poblogaidd posibl.

Roedd cam nesaf y broses yn cynnwys ymgynghoriad i adolygu'r lleoliadau hyn. Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru gynhaliodd yr ymgynghoriad ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am adolygu ymatebion i'r ymgynghoriad a'u defnyddio fel sail i roi cyngor i Weinidogion Cymru o ran p'un a ddylid dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig neu beidio.

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Rhwng 19 Ionawr a 3 Mai 2016, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn partneriaeth â'r JNCC, ymgynghoriad ynghylch yr “Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a'r Ardaloedd Gwarchod Arbennig morol newydd arfaethedig”. Holodd yr ymgynghoriad farn ar y cynnig i greu tair Ardal Cadwraeth Arbennig newydd ar gyfer llamhidyddion harbwr yn nyfroedd Cymru. Yr ardaloedd hyn yw Gogledd Môn Forol, Gorllewin Cymru Forol a Dynesfeydd Môr Hafren sy'n cwmpasu ardal o 16,477km2. Trafodir Ardal Gadwraeth Arbennig arfaethedig Dynesfeydd Môr Hafren yn ymgynghoriad Lloegr (JNCC) a Chymru (Cyfoeth Naturiol Cymru). Gellir gweld dogfennaeth fanwl a map o'r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig yn y papur ymgynghori sydd hefyd yn cynnwys lincs i asesiadau penodol, mapiau ac amcanion cadwraeth.

Ar gyfer pob safle, roedd yr ymgynghoriad yn edrych ar:

§    Y sail wyddonol y mae'r ffiniau arfaethedig yn seiliedig arni. Disgrifir hyn yn yr adran “Selection Assessment Documentation” yn y papur ymgynghori' a

§    Yr Asesiad Effaith Economaidd Gymdeithasol y DU drafft. Roedd yr asesiad hwn yn dadansoddi'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd posibl ar y safleoedd a all helpu i ddeall eu heffaith a rhoi gwybod i'r rheolwyr. Gellir gweld y rhain o dan yr adran “Draft Impact Assessments” yn y papur ymgynghori.

Mae'n bwysig nodi na ellir ystyried unrhyw ystyriaethau economaidd gymdeithasol a allai godi yn ystod y broses ymgynghori, fel effaith Ardal Gadwraeth Arbennig ar weithgareddau masnachol presennol neu yn y dyfodol, wrth ddynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu wrth ddiffinio'r ffiniau. Diben yr Asesiad Effaith economaidd gymdeithasol yw bod yn sail i benderfyniadau rheoli a wneir mewn perthynas ag unrhyw safleoedd sy'n cael eu cynnig ar gyfer eu dynodi.

Disgwylir i Gyfoeth Naturiol Cymru lunio adroddiad ar yr ymatebion ymgynghori ac unrhyw ddiwygiadau dilynol.  Bydd eu hargymhellion ar gyfer dynodiadau yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo. Os bydd yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig yn cael eu cymeradwyo, byddant yn cael eu cyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd. Os caiff yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a gyflwynir eu derbyn, cyfeirir atynt fel 'Safleoedd o Bwys Cymunedol' a fydd yna'n cael eu huwchraddio i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig pan fydd Llywodraeth Cymru yn eu dynodi yn ffurfiol. Mae gan Weinidogion Cymru hyd at 6 mlynedd i ddynodi'r safleoedd yn ffurfiol a gweithredu'r holl fesurau rheoli angenrheidiol.  Gellir gweld rhagor o wybodaeth am yr amserlen a'r broses ar gyfer dynodi yn y ddogfen cwestiynau ac atebion hon a baratowyd gan y JNCC a'r Cyrff Cadwraeth Natur Statudol.

Mae'r llythyr gan Lesley Griffith, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ar 18 Awst 2016 at y Pwyllgor Deisebau yn nodi nad oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud eto ar ddynodi safleoedd newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael argymhellion terfynol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ganlyniadau'r ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni.

Nid yw'r llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi a fydd y broses o ddynodi'r safleoedd hyn yn cael ei heffeithio yn sgil y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Hyd nes y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol, mae cyfraith Ewrop yn dal i fod yn gymwys yng Nghymru.

 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafodwyd y penderfyniad i ddynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ychwanegol mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 1 Ebrill 2015 gan Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd. Roedd y datganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu morol a physgodfeydd Llywodraeth Cymru.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.